Cyfreithwyr JCP
Cwmni cyfreithiol rhanbarthol yw Cyfreithwyr JCP sydd â swyddfeydd yn Abertawe, Caerdydd, Caerffili, Sir Gaerfyrddin, Y Bont-faen, a Sir Benfro. Mae ein pobl yn arbenigo mewn amrywiaeth eang o wasanaethau, gan gynnwys: Trawsgludo, Eiddo Masnachol, Ewyllysiau a Phrofiant, Cyfraith Teulu, Ysgariad a Materion Plant, Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, Cyfraith Cyflogaeth ac Adnoddau Dynol trwy gontract allanol, Anaf Personol ac Anafiadau Difrifol, ac ystod eang o wasanaethau i fusnesau.
Ein Cynnig Cymraeg
Mae Cyfreithwyr JCP yn ymfalchïo yn y Gymraeg. Credwn ei bod yn cyfleu ymdeimlad o ymddiriedaeth.
Dywedodd y Cyfarwyddwr a Chydlynydd y Gymraeg yng Nghyfreithwyr JCP, Meinir Davies: “Mae 18 y cant o’n cydweithwyr yma yng Nghyfreithwyr JCP yn siarad Cymraeg ac mae cyfathrebu â ni drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod ar gael i’n cleientiaid, pan eu bod yn dewis gwneud hynny, ers blynyddoedd.
Bu’n ganolog i ethos JCP erioed ein bod yn rhan annatod o’r cymunedau yr ydym ni’n eu gwasanaethu, ac mae’r gallu i gyfathrebu â’n cleientiaid yn yr iaith y mae nhw fwyaf cartrefol ynddi yn rhan allweddol o’r ymagwedd honno.”
Dyma uchafbwyntiau ein gwasanaethau Cymraeg i’n cleientiaid:
- Siaradwch yn Gymraeg gyda staff lle gwelwch nhw’n gwisgo’r bathodyn Iaith Gwaith
- Croeso i chi ysgrifennu atom yn y Gymraeg neu’r Saesneg
- Byddwn yn gwneud pob ymdrech i drafod eich achos yn y Gymraeg
- Mae ein gwefan yn ddwyieithog
- Pan fo aelodau o’r tîm yn gallu cysylltu yn y Gymraeg bydd y taflenni yma ar gael yn ddwyieithog.
- Mae recriwtio staff sy’n siarad Cymraeg yn cael ei gyfri’n fantais
- Byddwn yn cefnogi digwyddiadau lleol sy’n hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg
- Byddwn yn cynnal brecwast busnes yn flynyddol i’n cleientiaid masnachol Cymreig er mwyn annog y defnydd o’r Gymraeg mewn busnes
- Mae ein llinell dalu awtomatig yn ddwyieithog
Rydym mor falch o fod y cwmni cyfreithiol cyntaf i dderbyn achrediad ffurfiol o’n Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg ym mis Mawrth 2021.