Cyfreithwyr Anghydfodau Busnes
Bydd sawl busnes yn wynebu anghytuno neu anghydfod â busnes arall, corff arall, neu unigolyn ar ryw adeg. Rydym ni’n canolbwyntio ar gyflawni eich amcanion masnachol yn wyneb yr heriau anoddaf. Gall Cyfreithwyr JCP ddatrys ystod o anghydfodau masnachol yn effeithiol ac effeithlon ar draws sawl disgyblaeth, gyda ffocws arbennig ar edrych am y dulliau mwyaf effeithlon a chost-effeithiol. Cysylltwch ȃ’n Tîm Ymgyfreitha Masnachol arbenigol ar 03333 208644 neu e-bost hello@jcpsolicitors.co.uk
Gwyddom fod yn rhaid i ni wneud yr hyn a allwn i weithio o fewn eich amserlen a’ch cyllideb chi. Byddwn yn ystyried pa un a oes gwir angen cymryd camau cyfreithiol ac yn esbonio’n glir beth yw’r canlyniad mwyaf tebygol. Cymerwn agwedd ddoeth, gymesur, ac ystyriol o gostau ar gyfer pob anghydfod o’r cychwyn cyntaf, a byddwn yn rhoi cyngor ymarferol mewn iaith hawdd ei deall.
Mae ein gwasanaeth Anghydfodau Busnes yn ymdrin ag anghydfodau cyffredinol mewn busnes, anghydfodau yn y byd adeiladu a’r byd chwaraeon, ac ansolfedd.
Byddwn yn eich cynghori ar sut i osgoi anghydfod ac ar arfer orau, yn ogystal â darparu cyngor y tu ôl i’r llenni ar sut i ddatrys anghydfod yn anffurfiol ar y dechrau pan fo hynny’n bosibl. Pan na ellir osgoi anghydfod, mae’r sgiliau a’r profiad gennym ni i’ch helpu i gyflawni’r datrysiad iawn. Rydym yn deall yr heriau, yn rhoi sylw arbennig i fanylion, a chawn ganlyniadau da yn gyson.
Mae ein cleientiaid yn cynnwys busnesau ac unigolion o bob cwr o Gymru a rhannau o Loegr. Rydym o ddifrif ynglŷn â’n perthynas â’n cleient. Rydym yn ddigon mawr i ddarparu cyngor arbenigol mewn sawl maes, ond yn ddigon bychan i ddarparu gwasanaeth personol o’r safon uchaf. I’r perwyl hwnnw byddem yn falch iawn o gael sgwrs anffurfiol â chi er mwyn asesu sut y gall JCP eich cynorthwyo ymhellach.
"Roedd hwn yn achos anodd a chawsom ganlyniad boddhaol iawn. Roeddwn i a’m cyd-gyfarwyddwr yn falch iawn bod rhywun, am unwaith, wedi cyflawni’r hyn a addawyd."
Er mwyn siarad gyda’n Cyfreithwyr Anghydfodau Busnes arbenigol yn Ne Cymru, cysylltwch â’ch swyddfa JCP leol. Mae gennym swyddfeydd yn y lleoliadau canlynol:
Os nad oes swyddfa’n lleol i chi, cysylltwch â ni ar 03333 208644 gan ein bod yn hapus i drefnu galwad ffôn neu gyfarfod fideo pan yn addas. Fel arall, cysylltwch â ni ar hello@jcpsolicitors.co.uk, llenwch ein ffurflen ymholi, neu defnyddiwch ein hadnodd sgwrsio ar y we.