Cyfreithwyr Ansolfedd
Cydnabyddir ein tîm ansolfedd yn y cyfeiriadur Legal 500 fel un o'r darparwyr mwyaf blaenllaw ar gyfer gwasanaethau ansolfedd yng Nghymru.
Rydym yn gweithredu ar ran ymarferwyr ansolfedd a swydd-ddeiliaid yng Nghymru a Lloegr, boed hynny yn eu swyddogaeth fel Diddymwyr, Gweinyddwyr, Derbynwyr (gan gynnwys Derbynwyr Arwystl Sefydlog a Derbynwyr y Ddeddf Cyfraith Eiddo), Goruchwylwyr neu Ymddiriedolwyr ar gyfer Methdaliad.
Hefyd, mae ein harbenigedd helaeth yn ein galluogi i ddarparu amrywiaeth o gyngor ar ansolfedd i fusnesau, gan gynnwys ymdrin â chwsmeriaid sy’n fethdalwyr a/neu eu swydd-ddeiliaid, a rhoi cyngor o dan amgylchiadau pryd y gallai’r cleientiaid busnes eu hunain fod yn wynebu proses ansolfedd, megis penodi gweinyddwyr.
Rydym hefyd yn darparu cyngor i unigolion yn rheolaidd ar bob math o faterion ansolfedd, gan gynnwys cyflwyno neu ymateb i ddeisebau methdaliad, a hawliadau a gaiff eu dwyn gan swydd-ddeiliaid yn ymwneud â chartref y teulu.
Mae ein harbenigedd yn y maes hwn yn cynnwys:
- Ansolfedd Corfforaethol/Partneriaeth
- Ansolfedd Personol
- Deisebau diffygdalu
- Hawliadau tanbrisio/ffafrio
- Hawliadau camwaith
- Adfer asedau
- Cymorth Ymgyfreitha ar gyfer Swydd-ddeiliaid Ansolfedd
- Achub Cwmnïau
- Anghymwyso Cyfarwyddwyr/Achosion Gorchymyn Cyfyngu Methdaliad
- Rhannu cwmnïau
- Atgyfansoddi ac ad-drefnu solfent
- Prynu cyfranddaliadau yn ôl
- Gweithredu ar ran swydd-ddeiliaid mewn cysylltiad â gwerthu eiddo ac asedau (gan gynnwys pecynnau parod)
- Gweithredu ar ran prynwyr oddi wrth weinyddwyr/diddymwyr
- Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth)
- Cyngor ar ddileu swyddi
- Gweithredu ar ran Derbynwyr Arwystl Sefydlog a Derbynwyr y Ddeddf Cyfraith Eiddo, gan gynnwys dilysu penodiadau a materion trafodiadau ac ymgyfreitha.
Fel arbenigwyr, rydym yn deall mai ychydig iawn o gyllid sydd gan swyddogion yn aml i’w ddefnyddio ar gyfer costau cyfreithiol. O ganlyniad i hyn, rydym yn fodlon gweithredu ar sail ffi amodol mewn achosion priodol ac rydym hefyd yn cynghori ar gyllid ymgyfreitha pan fo angen hynny.
Er mwyn siarad gyda’n Cyfreithwyr Anghydfodau Busnes arbenigol yn Ne Cymru, cysylltwch â’ch swyddfa JCP leol. Mae gennym swyddfeydd yn y lleoliadau canlynol:
Os nad oes swyddfa’n lleol i chi, cysylltwch â ni ar 03333 208644 gan ein bod yn hapus i drefnu galwad ffôn neu gyfarfod fideo pan yn addas. Fel arall, cysylltwch â ni ar hello@jcpsolicitors.co.uk, llenwch ein ffurflen ymholi, neu defnyddiwch ein hadnodd sgwrsio ar y we.