Cyfreithwyr Contractau Masnachol banner

Gwneud eich Busnes Chi yn Fusnes i Ni

Home / Cymraeg / Cyfreithwyr Contractau Masnachol

Cyfreithwyr Contractau Masnachol

Mae cytundebau masnachol yn ffurfio'r fframwaith y mae'n rhaid i bob busnes weithredu drwyddo. Mae rhai yn anffurfiol, rhai yn achlysurol ac mae nifer yn hanfodol i oroesiad a thwf busnes.

Nid yw cytundebau bob amser yn cael eu cwblhau drwy ysgwyd llaw, ond rydym yn deall y gallech chi ddymuno iddyn nhw fod weithiau. Mae ein tîm yn arbennig o fedrus wrth ddarparu cyngor synhwyrol ac wrth baratoi gwaith papur ymarferol. Ni fyddwn yn saernïo eich trefniadau yn ormodol, byddwn yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig.

Gallwn baratoi, negodi a chynghori ar ystod lawn o gytundebau masnachol gan gynnwys telerau ac amodau cytundebau masnach, asiantaeth a dosbarthu, contractau gweithgynhyrchu a chyflenwi, rheoli cyfleusterau a chytundebau cyfleusterau, masnachfreinio, noddi, cystadlaethau a chytundebau masnachol pwrpasol.


I siarad â'n cyfreithwyr Busnes arbenigol yn ne Cymru, cysylltwch â'ch swyddfa Cyfreithwyr JCP leol. Mae gennym swyddfeydd yn y lleoliadau canlynol:

Os nad oes swyddfa yn agos atoch chi, cysylltwch â ni ar 03333 208644 gan ein bod yn hapus i drefnu cyfarfodydd dros y ffôn a chyfarfodydd fideo pan fo hynny'n briodol. Fel arall, mae croeso i chi anfon e-bost atom i hello@jcpsolicitors.co.uk, llenwi ein ffurflen ymholiadau ar-lein, neu ddefnyddio ein cyfleuster sgwrsio byw ar y we.