Cyfreithwyr Eiddo Masnachol banner

Cytundebau Eiddo â’ch Busnes Chi Mewn Golwg

Home / Cymraeg / Cyfreithwyr Eiddo Masnachol

Cyfreithwyr Eiddo Masnachol

Waeth beth yw maint eich busnes neu'r diwydiant rydych chi'n gweithio ynddo, mae'n debygol y bydd angen i chi wneud penderfyniadau pwysig ynglŷn ag eiddo.

Yn yr un modd, os ydych yn berchen ar eiddo masnachol yr ydych yn ei brydlesu, nid yw sicrhau tenantiaid dibynadwy a fydd yn sicrhau eich bod yn gweld elw ar eich buddsoddiad bob amser yn syml. Dyna pam yr ydym, yn JCP, wedi dewis tîm o gyfreithwyr eiddo masnachol arbenigol yn ofalus. P'un a ydych chi'n landlord, yn denant neu'n ddatblygwr, gallwch ddisgwyl y gwasanaeth gorau posibl gan JCP. Ein haddewid i chi yw gweithredu er eich lles pennaf bob amser; gweithio gyda chi i ddod o hyd i atebion wedi'u teilwra sy'n diwallu eich anghenion – yn ymarferol ac yn fasnachol.

Rydym wedi bod yn darparu cyngor arbenigol ar eiddo masnachol, gan gynghori cleientiaid masnachol trwy benderfyniadau eiddo ers dros 20 mlynedd. Rydym wedi gweithredu ar ran sylfaen cleientiaid helaeth gan gynnwys datblygwyr eiddo, cymdeithasau tai, buddsoddwyr a busnesau. Mae gennym hefyd arbenigedd penodol ym maes eiddo a thir amaethyddol.

Rydym wedi datblygu ymwybyddiaeth o'r tueddiadau mewn marchnadoedd manwerthu, swyddfeydd ac eiddo diwydiannol, sy’n caniatáu inni ddarparu cyngor sy'n gyfredol ac yn realistig. O gaffael a gwaredu safleoedd busnes i adeiladu ac ailddatblygu safleoedd, mae gan ein cyfreithwyr eiddo masnachol y profiad sy'n angenrheidiol i'ch tywys drwy brosesau, trafodiadau a phenderfyniadau cymhleth yn ddidrafferth.

Mae ein tîm Ymgyfreitha Eiddo Masnachol hefyd yn cynorthwyo cleientiaid yn rheolaidd gyda phob math o anghydfodau eiddo masnachol, gan ddatrys hyd yn oed yr anghydfodau mwyaf cymhleth a gwerth uchel, yn aml heb fod angen achos llys.

O'r cychwyn cyntaf, byddwn yn rhoi amcangyfrif pendant i chi o'r gost a syniad realistig o amserlenni fydd yn eich galluogi i gyllidebu eich arian a’ch amser yn gywir ar gyfer pob trafodiad. Rydym yn deall yr heriau sy'n wynebu busnesau o ddydd i ddydd yn ogystal ag yn yr hirdymor, felly ein blaenoriaeth yw diogelu eich buddiannau ariannol a masnachol i sicrhau eich bod yn elwa i’r eithaf o'ch eiddo.

Credwn fod cyfathrebu cryf yn allweddol i drafodiad llwyddiannus. Dyna pam y bydd ein cyfreithwyr eiddo masnachol bob amser yn gweithio'n agos ochr yn ochr â'ch asiantau. P'un a ydych yn fusnes sy'n ystyried gosodiad tymor byr neu'n fuddsoddwr sylweddol, rydym yn hyderus bod gan ein tîm eiddo masnachol yr arbenigedd i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl.


I siarad â'n cyfreithwyr Eiddo Masnachol arbenigol yn ne Cymru, cysylltwch â'ch swyddfa Cyfreithwyr JCP leol. Mae gennym swyddfeydd yn y lleoliadau canlynol:

Os nad oes swyddfa yn agos atoch chi, cysylltwch â ni ar 03333 208644 gan ein bod yn hapus i drefnu cyfarfodydd dros y ffôn a chyfarfodydd fideo pan fo hynny'n briodol. Fel arall, mae croeso i chi anfon e-bost atom i hello@jcpsolicitors.co.uk, llenwi ein ffurflen ymholiadau ar-lein, neu ddefnyddio ein cyfleuster sgwrsio yn fyw ar y we.