Cyfreithwyr Gwerthu Busnes
Gall gwerthu gwaith oes fod yn brofiad hynod anodd. Fodd bynnag, mae Cyfreithwyr JCP yn gwneud hyn bob dydd. Ceir rhai digwyddiadau mewn bywyd pan fydd angen i chi deimlo eich bod mewn dwylo diogel.
Mae gwerthu busnes yn gofyn am gynllunio gofalus a gweithiwr proffesiynol profiadol i'ch tywys drwy'r broses. Os aiff pethau o chwith o ran trafodaethau masnachol sensitif, amseriadau neu benderfyniadau ariannol pwysig, gall fod yn gostus o ran amser ac arian gan achosi straen digroeso i chi.
Mae ein tîm penodedig o gyfreithwyr arbenigol wedi cynghori ar werthu llawer o fusnesau dros y blynyddoedd - rhai ohonynt yn adnabyddus a rhai ohonynt yn llawer llai, ond pob un yr un mor bwysig i ni.
Gallwn helpu
Mae gennym un o'r timau masnachol penodedig a phrofiadol mwyaf yn y rhanbarth ac rydym wedi cynghori ar werthiannau busnes o bob maint (o werthiannau cwmnïau mawr sy’n werth miliynau o bunnau i unig fasnachwyr) ac ar draws ystod o sectorau, gan gynnwys:
- Manwerthu - siopau, gorsafoedd petrol, swyddfeydd post
- Hamdden a lletygarwch – gwestai, parciau carafanau, darparwyr archebu, iechyd a ffitrwydd
- Logisteg a thrafnidiaeth
- Meddalwedd a TG
- Gwastraff ac ailgylchu
- Mwyngloddio ac agregau
- Gwasanaethau proffesiynol - fel cyfrifwyr, cynghorwyr ariannol annibynnol a hyd yn oed cwmnïau cyfreithwyr eraill
- Peirianneg
- Cartrefi gofal
- Gofal Iechyd – deintyddion, fferyllwyr a meddygon teulu
Gallwn eich cynghori a'ch tywys drwy bob cam o'r broses werthu o'r dechrau i'r diwedd. Er mwyn siarad ag un o'n cyfreithwyr gwerthu busnes arbenigol, cysylltwch ag aelod o'n tîm gan ddefnyddio ein manylion cyswllt staff isod neu ddefnyddio ein cyfleuster Sgwrs Fyw sydd ar gael 24/7.
I siarad â'n cyfreithwyr Busnes arbenigol yn ne Cymru, cysylltwch â'ch swyddfa Cyfreithwyr JCP leol. Mae gennym swyddfeydd yn y lleoliadau canlynol:
Os nad oes swyddfa yn lleol i chi, cysylltwch â ni ar 03333 208644 gan ein bod yn hapus i drefnu cyfarfodydd ffôn a fideo lle bo hynny'n briodol. Fel arall, mae croeso i chi anfon e-bost atom yn hello@jcpsolicitors.co.uk, llenwi ein ffurflen ymholiadau ar-lein, neu ddefnyddio ein cyfleuster sgwrsio’n fyw dros y we.