Cyfreithwyr Trawsgludo
Efallai mai dim ond unwaith neu ddwy yn eich bywyd y byddwch chi’n prynu cartref newydd. Rydym ni’n gwneud hynny bob dydd. Gadewch i’n cyfreithwyr eiddo arbenigol eich tywys yn gyflym ac yn ddidrafferth drwy’r broses, a gallwch fod yn dawel eich meddwl eich bod yn defnyddio pobl broffesiynol achrededig a’ch bod mewn dwylo da. Cysylltwch a ni ar 03333 208644 neu ebost YourHomeMove@jcpsolicitors.co.uk.
Trawsgludo yw enw’r broses gyfreithiol sy’n ofynnol ar gyfer trosglwyddo perchnogaeth eiddo o un person i’r llall. Weithiau fe’i defnyddir hefyd i gyfeirio at y broses o ail-forgeisio, cymryd les ar eiddo, ac amryw fathau eraill o drafodiadau eiddo.
Bydd eich cartref yn un o’r ymrwymiadau ariannol mwyaf y byddwch yn eu gwneud yn ystod eich oes. Diogelwch eich ased mwyaf drwy ddefnyddio gwasanaethau tîm sy’n arbenigo mewn trawsgludo eiddo preswyl.
Mae gan bob un o’n tîm arbenigol rif ffôn a chyfeiriad e-bost uniongyrchol. Gwyddom fod cyfathrebu yn bwysig a byddwn yn anfon yr wybodaeth ddiweddaraf atoch yn y modd ac ar yr amser sy’n addas i chi.
Rydym ag Achrediad Cynllun Ansawdd Cymdeithas y Gyfraith ar gyfer Trawsgludo.
Mae ein tîm o gyfreithwyr trawsgludo arbenigol yn gweithio ar draws De Cymru, Gorllewin Cymru ac ymhellach. Gallwn eich tywys trwy’r broses trawsgludo gyfan gan sicrhau bod eich trafodiad yn mynd yn ei flaen yn ddidrafferth ac ar amser. Fe fyddwn yn eich diogelu yn gyfreithiol ac yn ariannol a sicrhau nad oes dim byd annisgwyl, cas i’w wynebu ar ôl i’r ddêl gwblhau.
Siaradwch ag un o’n cyfreithwyr trawsgludo arbenigol yn Ne Cymru nawr trwy gysylltu gyda’ch swyddfa JCP lleol neu defnyddiwch ein ffurflen ymholi ar y dde i ofyn am ddyfynbris.
Er mwyn siarad gyda’n Cyfreithwyr Trawsgludo arbenigol yn Ne Cymru, cysylltwch â’ch swyddfa JCP leol. Mae gennym swyddfeydd yn y lleoliadau canlynol:
Os nad oes swyddfa’n lleol i chi, cysylltwch â ni ar 03333 208644 gan ein bod yn hapus i drefnu galwad ffôn neu gyfarfod fideo pan yn addas. Fel arall, cysylltwch â ni ar hello@jcpsolicitors.co.uk, llenwch ein ffurflen ymholi, neu defnyddiwch ein hadnodd sgwrsio ar y we.