Cyfreithwyr y Llys Gwarchod
Mae'r Llys Gwarchod yn bodoli i roi cymorth i bobl nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch eu lles, iechyd, eiddo a chyllid. Mae Cyfreithwyr JCP yn cynnig gwasanaeth penodedig sy'n adnabyddus yn rhanbarthol sy'n cwmpasu pob agwedd ar y maes arbenigol hwn o'r gyfraith.
Gall analluogrwydd meddyliol godi o ganlyniad i anaf i'r ymennydd, neu gall fod yn gysylltiedig â chlefyd neu salwch. Nid yw'n gyfyngedig i unrhyw grŵp oedran penodol; gall fod dros dro neu'n barhaol, a bydd y graddau a'r effeithiau yn amrywio o berson i berson.
Gall y Llys Gwarchod ddyrannu ei bwerau i berson arall os oes angen gwneud penderfyniadau yn y dyfodol. Cyfeirir at y person sy'n cael y pwerau hyn fel Dirprwy.
Rôl Tîm Y Llys Gwarchod arbenigol yn JCP
Mae gan JCP dîm arbenigol sydd wedi ymroi i ofalu am gleientiaid sydd wedi cael eu hunain o dan warchodaeth y Llys, dan arweiniad y Cyfarwyddwr a'r Dirprwy Proffesiynol Lynne Morgan, arbenigwraig uchel ei pharch yn rhanbarthol ym maes hawliadau anafiadau trawmatig i'r ymennydd a'r Llys Gwarchod.
Mae amrywiaeth eang o resymau wedi dod â chleientiaid Llys Gwarchod JCP o dan ofal personol ein tîm. Mae gennym enw da ar draws de a gorllewin Cymru ym maes anafiadau trychinebus ac rydym yn rheolaidd yn parhau’r berthynas â chleientiaid yr ydym wedi cyflawni iawndal ar eu cyfer, gan sicrhau bod yr arian y maent wedi'i dderbyn yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau. Ein nod craidd yw galluogi ein cleientiaid i fyw bywyd mor llawn â phosibl ar ôl eu damwain.
Hefyd, rydym yn gofalu am lawer o gleientiaid sydd wedi colli galluedd meddyliol trwy ddementia, salwch neu afiechyd. Ar hyn o bryd, mae ein harbenigwyr Llys Gwarchod llawn amser yn gweithredu fel ymddiriedolwyr ar sail barhaus ar gyfer nifer sylweddol o gleientiaid y mae cyfanswm eu hasedau cyfunol oddeutu £110 miliwn.
Sut gallwn ni eich helpu chi?
Efallai eich bod yn ceisio cymorth ar ran rywun sy’n annwyl i chi o ddydd i ddydd fel y gallwch fod yn dawel eich meddwl bod popeth yn ei le o ran cyllid a lles eich anwylyn; efallai y bydd angen arweiniad arnoch i wneud eich cais dirprwyaeth eich hun er mwyn i chi allu gofalu am anghenion eich anwylyn. Efallai y gofynnwyd i chi drefnu prawf i bennu galluedd meddyliol. Mae ein tîm yn gallu helpu ym mhob un o'r meysydd hyn:
Gwasanaeth Dirprwy Llawn
Mae Lynne Morgan yn Ddirprwy Proffesiynol wedi’i phenodi gan Y Llys Gwarchod. Gyda'i thîm, mae Lynne yn cymryd cyfrifoldeb am ddarparu cymorth o ddydd i ddydd i'r rhai sydd wedi cael eu hunain mewn sefyllfa agored i niwed, gan wneud penderfyniadau pwysig ar eu rhan a sicrhau bod ganddyn nhw bopeth sydd ei angen arnyn nhw i fyw'r bywyd gorau posibl.
Gwasanaeth Cymorth Cyfreithiol
Os ydych chi'n gweithredu fel dirprwy i anwylyn ond, fel llawer, yn gweld rhai o'r cyfrifoldebau a'r penderfyniadau o ddydd i ddydd yn dipyn o her, mae help wrth law ar ffurf ein Gwasanaeth Cymorth Cyfreithiol. Cynigir gwasanaethau ar sail hyblyg gan ein tîm arbenigol o Gynorthwywyr Cyfreithiol.
Ymddiriedolaethau Anafiadau Personol
Dyfarnwyd yr iawndal a gawsoch chi neu’ch anwylyn yn dilyn damwain er mwyn darparu cymorth mewn ffordd benodol. Yn anffodus, gall dyfarniadau o'r fath weithiau eich arwain i ganfod nad ydych bellach yn gymwys i gael rhai budd-daliadau gwladol prawf modd. Mae Ymddiriedolaethau Anafiadau Personol wedi'u cynllunio i ddiogelu eich dyfodol trwy gadw'r cymhwystra hwn yn gyfan.
Pennu Galluedd Meddyliol
Os gofynnwyd i chi drefnu asesiad galluedd meddyliol, gallwn wneud yr holl drefniadau ar eich rhan yn uniongyrchol gyda'r gweithwyr proffesiynol priodol. Ein rôl ni yw goruchwylio'r asesiad a sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf Galluedd Meddyliol a'r Cod Ymarfer cysylltiedig a'ch cynghori o ran beth i’w wneud ar ôl i chi gael y canlyniadau.
Atwrneiaethau Arhosol
Mae dewis rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo i ofalu am eich materion os byddwch yn canfod na allwch chi eich hun gyflawni hynny yn gam doeth. Bydd gwneud Atwrneiaeth Arhosol (LPA) yn rhoi'r sicrwydd hwn. Fodd bynnag, mae'n hanfodol i chi ddeall fod gwneud LPA dim ond yn bosibl pan fyddwch chi’n ffit ac yn iach. Mewn geiriau eraill, peidiwch â'i gadael hi'n rhy hwyr.
Er mwyn siarad gyda’n Cyfreithwyr Llys Gwarchod arbenigol yn Ne Cymru, cysylltwch â’ch swyddfa JCP leol. Mae gennym swyddfeydd yn y lleoliadau canlynol:
Os nad oes swyddfa’n lleol i chi, cysylltwch â ni ar 03333 208644 gan ein bod yn hapus i drefnu galwad ffôn neu gyfarfod fideo pan yn addas. Fel arall, cysylltwch â ni ar hello@jcpsolicitors.co.uk, llenwch ein ffurflen ymholi, neu defnyddiwch ein hadnodd sgwrsio ar y we.