Damweiniau Ac Anafiadau
Adnabyddir cyfreithwyr JCP fel un o gwmnïau cyfreithwyr mwyaf blaenllaw Cymru ar gyfer achosion damweiniau ac anaf personol. Yn ogystal â hawliadau llai fel y rhai ar gyfer damweiniau ar y ffyrdd, rydym hefyd yn arbenigo mewn anafiadau trychinebus gan gynnwys anafiadau i’r pen ac anafiadau i’r asgwrn cefn.
Yn anffodus, mae damweiniau yn digwydd a gall colledion ariannol eraill a achoswyd o’u herwydd arwain at ofid a chaledi. Gall ein tîm o gyfreithwyr sy’n arbenigo mewn anaf personol eich cynorthwyo i hawlio unrhyw iawndal y gallech fod â hawl iddo.
Rydym yn addo y byddwn yn ymdrin â’ch achos gyda chydymdeimlad a charedigrwydd, ac yn darparu gwasanaeth proffesiynol gan gyfreithwyr profiadol ar yr un pryd.
Byddwn yn trefnu i’ch gweld yn ein swyddfeydd ledled de a gorllewin Cymru. Neu byddem yn hapus i gwrdd â chi yn eich cartref neu ymweld â chi yn yr ysbyty pe byddai eich sefyllfa neu anaf yn golygu nad ydych yn gallu teithio.
Felly, os ydych chi wedi bod yn ddigon anffodus i ddioddef anaf o ganlyniad i ddamwain o fewn y tair blynedd diwethaf, lle nad arnoch chi oedd y bai, ac yr hoffech gael sgwrs â ni yn rhad ac am ddim heb unrhyw ymrwymiad, naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn, cysylltwch ag aelod o’n tîm profiadol a chyfeillgar.
Pwy fydd yn talu fy nghostau?
Yn ein cyfarfod cyntaf, sy’n rhad ac am ddim, byddwn yn trafod y gwahanol ffyrdd y gellid talu eich costau cyfreithiol. Fel arfer gallwn eich cynrychioli ar y sail na fydd cost i chi os na fyddwn ni’n ennill yr achos.
Pa mor gyflym y mae angen i mi weithredu?
Mae terfynau amser llym yn berthnasol os ydych yn dymuno mynd ag achos anaf personol ymhellach. Dylech gysylltu â ni cyn gynted â phosib felly.
Mae gennym unigolion yn y tîm sy’n aelodau o Banel Anaf Personol Cymdeithas y Gyfraith, Y Gymdeithas Anafiadau i’r Asgwrn Cefn, Panel Cyfreithwyr Headway, Y Gymdeithas Cyfreithwyr Anaf Personol a’r Gymdeithas Cyfreithwyr Damweiniau ar y Ffyrdd. Pwy bynnag o’n Tîm Anaf Personol y byddwch yn ei gyfarwyddo, bydd yn eich cynrychioli gyda’r arbenigedd a’r cydymdeimlad yr ydych yn ei haeddu.
Er mwyn siarad gyda’n Tîm Anaf Personol arbenigol yn Ne Cymru, cysylltwch â’ch swyddfa JCP leol. Mae gennym swyddfeydd yn y lleoliadau canlynol:
Os nad oes swyddfa’n lleol i chi, cysylltwch â ni ar 03333 208644 gan ein bod yn hapus i drefnu galwad ffôn neu gyfarfod fideo pan yn addas. Fel arall, cysylltwch â ni ar hello@jcpsolicitors.co.uk, llenwch ein ffurflen ymholi, neu defnyddiwch ein hadnodd sgwrsio ar y we.