Eiddo Deallusol
Os ydych yn unig fasnachwr, yn fusnes bach neu ganolig neu yn gorfforaeth fyd-eang, mae’n debygol y bydd eiddo deallusol yn rhan ganolog o’ch busnes. O restrau cwsmeriaid i batentau, mae eich eiddo deallusol yn arf hollbwysig a all, o’i ddefnyddio’n briodol, ychwanegu gwerth i’ch ffrydiau creu incwm.
Yn fras, mae eiddo deallusol yn cynnwys yr hawliau / asedau canlynol:
- Hawlfraint
- Nod masnach
- Patentau
- Dyluniadau
- Hawliau cronfa ddata
Yn ogystal â bod yn ymwybodol o'ch hawliau eich hun a sut i'w diogelu, mae angen i chi hefyd amddiffyn rhag honiadau o dorri hawliau trydydd parti. Mae angen i chi hefyd fod yn ymwybodol o faterion diogelu data.
Gallwn eich tywys drwy'r broses o nodi a diogelu eich asedau eiddo deallusol mewnol a'ch helpu i amddiffyn eich busnes rhag bygythiadau trydydd parti allanol.
Mae ein tîm sydd â meddylfryd busnes yn arbenigwyr ym maes materion eiddo deallusol dadleuol ac annadleuol, felly beth am gysylltu â ni i weld sut y gallwn helpu?
I siarad â'n cyfreithwyr Eiddo Deallusol arbenigol yn ne Cymru, cysylltwch â'ch swyddfa Cyfreithwyr JCP leol. Mae gennym swyddfeydd yn y lleoliadau canlynol:
Os nad oes swyddfa yn lleol i chi, cysylltwch â ni ar 03333 208644 gan ein bod yn hapus i drefnu cyfarfodydd ffôn a fideo lle bo hynny'n briodol.
Fel arall, mae croeso i chi anfon e-bost atom yn hello@jcpsolicitors.co.uk, llenwi ein ffurflen ymholiadau ar-lein, neu ddefnyddio ein cyfleuster sgwrsio’n fyw dros y we.