Ein Gwasanaethau
Mae’r tîm yn Cyfreithwyr JCP, yn tyfu ac wedi ymroi i ddarparu cyngor cyfreithiol o ansawdd uchel i fusnesau ac unigolion ledled y gymuned leol. Ein nod yw hwyluso bywydau ein cleientiaid trwy symleiddio sefyllfaoedd a dod o hyd i atebion wedi'u teilwra sy'n diwallu eu hanghenion.
Canolbwynt craidd ein cwmni yw helpu ein cleientiaid i symud o un cam i'r llall heb fawr o ffwdan: boed hynny trwy drafodiad eiddo, mater teuluol neu anghydfod masnachol. Pan fyddwch chi'n cyfarwyddo Cyfreithiwr yn JCP, gallwch fod yn hollol sicr y bydd eich achos yn nwylo arbenigwr yn y maes penodol hwnnw o'r gyfraith.
Bob cam o'r ffordd, gallwch ddibynnu arnom i ymdrin ag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau sydd gennych mewn modd prydlon, gan egluro eich opsiynau yn hollol glir.
Cyfreithwyr ar gyfer Eich Busnes
O egin fusnesau bach i fusnesau sydd wedi hen ymsefydlu, mae ein Cyfreithwyr Cyfraith Fasnachol yn cynorthwyo cwmnïau ledled Cymru trwy ddarparu cyngor strategol, cymorth cyfreithiol a chynrychiolaeth drwy nifer o faterion. O anghydfodau cymhleth gyda gweithwyr, cleientiaid a chyfranddalwyr i ffurfio ac ailstrwythuro cwmnïau, rydym yn cynnig ystod o wasanaethau cynhwysfawr a gynlluniwyd i'ch helpu i redeg eich busnes heb boeni am broblemau cyfreithiol.
Yn JCP, mae ein tîm Cyfraith Fasnachol yn gweithio’n barhaus i fod yn hollol ymwybodol o’r newidiadau i ddeddfwriaeth er mwyn deall sut y byddant yn effeithio ar ein cleientiaid yn eu gweithrediadau o ddydd i ddydd. Drwy leihau risg, byddwch yn rhydd i wneud cynlluniau ar gyfer twf a datblygiad, a bydd ein Cyfreithwyr wrth eich ochr chi i'ch helpu i fanteisio ar gyfleoedd cyn gynted â phosibl. Pe bai anghydfod yn codi, gallwch alw ar ein Cyfreithwyr profiadol i'ch cynrychioli i sicrhau canlyniad cadarnhaol sy'n diwallu eich anghenion ymarferol a masnachol.
I gael gwybod mwy am ein Gwasanaethau Busnes a Masnachol, cliciwch ar un o'r dolenni isod:
- Anghydfodau Busnes
- Gwasanaethau Busnes
- Adennill Dyledion
- Gwerthu Busnes
- Hawliadau yn erbyn Gweithwyr Proffesiynol
- Contractau Masnachol
- Ansolfedd
- Trafodiadau Masnachol
- Cyllid Corfforaethol
- Cyfraith Cyflogaeth
- Eiddo Deallusol
- Partneriaeth
Cyfreithwyr Cleientiaid Preifat
Yn ogystal â gwasanaethau cyfreithiol busnes, mae Cyfreithwyr JCP yn cynnig cyngor wedi'i deilwra drwy ystod lawn o wasanaethau i unigolion. Rydym yn deall natur emosiynol rhai o'r materion hyn, a dyna pam y byddwn bob amser yn gweithio mewn ffordd sensitif gyda phenderfyniad er mwyn datrys materion mor gyflym ac effeithlon â phosibl. Felly, pa un a oes angen cyfreithiwr teulu arbenigol arnoch i'ch tywys trwy'r broses ysgaru, neu yr ydych yn ceisio amddiffyn eich asedau trwy ewyllys, neu os ydych eisiau dwyn hawliad anaf personol, mae ein Cyfreithwyr cyfeillgar a phroffesiynol yma i'ch cefnogi.
Oherwydd ein profiad sylweddol o weithio gyda theuluoedd i ddatrys ystod o faterion personol ac ariannol, mae ein Cyfreithwyr yn credu'n gryf bod pob achos yn gofyn am ei ddull gweithredu unigryw ei hun. Felly, pan fyddwch yn cyfarwyddo aelod o'n tîm i gynorthwyo gyda phroblem gyfreithiol bersonol, byddwn yn gwrando ar eich pryderon, gan ddeall eich amgylchiadau unigol cyn eich cynghori ar sut i symud ymlaen. Os oes angen cyngor strategol arnoch er mwyn sicrhau'r swm cywir o iawndal neu sicrhau setliad teg mewn ysgariad, gallwch ddibynnu ar ein Cyfreithwyr Cleientiaid Preifat i gynnal trafodaethau medrus a chynnig cefnogaeth gynhwysfawr trwy gydol y broses.
I gael gwybod mwy am ein Gwasanaethau Cleientiaid Preifat, ewch i un o'r tudalennau canlynol:
- Damweiniau ac Anafiadau
- Herio Ewyllys neu Ymddiriedolaeth
- Hawliadau yn erbyn Gweithwyr Proffesiynol
- Y Llys Gwarchod
- Cyfraith Cyflogaeth Ar Gyfer Cyflogeion
- Cyfraith Teulu
- Cynlluniau Oes (Ewyllysiau a Phrofiant)
- Esgeuluster Meddygol
- Trawsgludo Preswyl
Cyfreithwyr Eiddo
Gyda'r tîm eiddo penodedig mwyaf yn ne a gorllewin Cymru, mae Cyfreithwyr JCP yn falch o helpu ystod eang o gleientiaid bob dydd gyda materion cyfreithiol sy'n ymwneud ag eiddo. O drafodiadau preswyl ac anghydfodau i negodi prydlesi masnachol rhwng landlordiaid a pherchnogion busnes, mae gan ein tîm yr arbenigedd sy'n angenrheidiol i ddarparu gwasanaeth cyfreithiol cynhwysfawr ni waeth beth yw eich mater dan sylw.
Os ydych wedi dod o hyd i'r eiddo perffaith i'w brynu a'ch bod yn chwilio am weithiwr proffesiynol i'ch tywys drwy'r broses drawsgludo, byddwn yn darparu eich Cyfreithiwr penodedig eich hun i ymgymryd â'r gwaith cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r trafodiad. Drwy gydol y broses hon, byddwch yn cael diweddariadau rheolaidd ar ganlyniadau ein chwiliadau a'n hymholiadau, a byddwn yn fwy na pharod i ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gennych o ran y trafodiad. Yn ogystal â phrynu a gwerthu eiddo preswyl, rydym hefyd yn cynorthwyo buddsoddwyr sy'n bwriadu prynu neu werthu eiddo masnachol, gan ddarparu cyngor strategol ar leoliadau a phrisiau cyn y broses drawsgludo fasnachol.
Pa un a yw'n ymwneud â llinellau ffiniau, tenant trafferthus neu adolygiadau rhent masnachol, yn sicr nid yw anghydfodau ynghylch eiddo yn anghyffredin. Yn anffodus, pan nad ymdrinnir â nhw'n ddigon cynnar, gall yr anghydfodau hyn ddatblygu'n hawdd i wrthdaro costus a thanbaid a all arwain at ganlyniadau sylweddol i'r naill barti neu'r llall. Os byddwch yn cael eich hun yng nghanol anghydfod ynghylch eiddo rydych yn berchen arno, yn gweithio ohono neu'n ei rentu, gallwch ddibynnu ar ein cyfreithwyr i gymryd y camau cyfreithiol angenrheidiol i amddiffyn eich buddiannau.
Ceir mwy o wybodaeth am ein Gwasanaethau Eiddo yma: