Gwasanaethau Eiddo
Wedi’u rhestru yn Legal 500, mae gan Gyfreithwyr JCP y tîm eiddo penodedig mwyaf yn ne a gorllewin Cymru. Mae eiddo yn rhan fawr o'n busnes ac mae'r arbenigedd sydd ei angen arnoch ar garreg eich drws ledled Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chaerdydd. Mae ein pobl yn arbenigo yn eu meysydd arbenigol eu hunain.
Mae ein gwasanaethau yn cynnwys:
- Trafodiadau, gan gynnwys gwerthu, prynu a phrydlesi
- Gweithredu ar ran benthycwyr mewn gwaith cynrychiolaeth ar wahân
- Rheoli ystadau ar ran landlordiaid
- Prynu tir ac eiddo sylweddol
- Anghydfodau landlordiaid a thenantiaid masnachol gan gynnwys adnewyddu prydlesi, adolygiadau rhent, dadfeiliadau, cyflwyno hysbysiadau, achosion meddiant a chamau gorfodi
- Anghydfodau yn ymwneud ag Eiddo, gan gynnwys ffiniau, hawliau tramwy, tresmasu a meddiant gwrthgefn
- Gwerthu a phrynu
- Ailforgeisio a rhyddhau ecwiti
- Gwerthu plot
- Landlord a thenant
- Achosion meddiant
Rydym bob amser yn rhoi ein cleientiaid yn gyntaf. Pan fyddwch chi'n ein cyfarwyddo, byddwn ni'n cymryd yr amser i sicrhau ein bod yn deall eich amcanion. Mae gan ein tîm sylfaen cleientiaid cryf sy'n ehangu ac sy'n glod i'r cyngor masnachol o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar fusnes yr ydym yn ei roi.
Os na allwch ddod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano, cysylltwch â ni a byddwn yn dweud wrthych pa un a allwn ni fod o gymorth.
I siarad â'n Cyfreithwyr Eiddo arbenigol, cysylltwch â'ch swyddfa Cyfreithwyr JCP leol. Mae gennym swyddfeydd yn y lleoliadau canlynol:
Os nad oes swyddfa yn lleol i chi, cysylltwch â ni ar 03333 208644 gan ein bod yn hapus i drefnu cyfarfodydd ffôn a fideo pan fo hynny'n briodol. Fel arall, mae croeso i chi anfon e-bost atom; hello@jcpsolicitors.co.uk, llenwi ein ffurflen ymholiadau ar-lein, neu defnyddiwch ein cyfleuster sgwrsio’n fyw dros y we.