Gyrfaoedd banner

Mae Eich Gyrfa Yn Dechrau Yma

Home / Cymraeg / Gyrfaoedd

Gyrfaoedd

Pobl yw canolbwynt craidd ein busnes, ynghyd ag ymrwymiad i arbenigedd a dyhead i fod yn arbenigwyr blaenllaw yn ein meysydd. Rydym yn fusnes sy'n rhoi pobl, cleientiaid a chymuned wrth wraidd ein prosesau gwneud penderfyniadau.

Ein nod yw darparu amgylchedd gwaith hapus a chadarnhaol. Rydym yn dathlu llwyddiannau eraill o'n cwmpas ac yn cefnogi ein gilydd yn broffesiynol ac yn bersonol. Rydym yn annog hyfforddiant a datblygiad ac rydym bob amser yn chwilio am gyfleoedd i ddatblygu gyrfa i bersonél â chymwysterau a rhai heb gymwysterau.

Fel cwmni cyfreithiol rhanbarthol rydym yn gallu cynnig y cyfle i ddatblygu gyrfaoedd yn gyflym ac i aelodau ein tîm gael mwy o gyfrifoldeb yn gynharach. Mae ein proses recriwtio yn rhoi mwy o flaenoriaeth i agwedd na sgiliau ac rydym yn gwmni sy'n ystyriol o deuluoedd lle anogir cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith.

Rydym yn gefnogwyr brwd o'r Gymraeg ac yn falch iawn mai ni yw'r cwmni cyfreithwyr cyntaf i dderbyn cydnabyddiaeth "Cynnig Cymraeg" gan Gomisiynydd y Gymraeg yn 2021. Rydym yn cefnogi ein siaradwyr Cymraeg ac yn ariannu gwersi i'r rhai a hoffai ddysgu’r iaith.

Hoffech chi ymuno â'n tîm?

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'n tîm, gallwch ddod o hyd i'n swyddi gwag diweddaraf yma.  Fel arall, cliciwch i wybod mwy am ein ceisiadau Cyfreithiwr dan Hyfforddiant, cyfleoedd Profiad Gwaith a Lleoliadau Israddedigion neu ein cynllun Prentisiaeth Gyfreithiol.

Methu gweld rôl cwbl addas? Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau ar hap. Mae croeso i chi anfon e-bost i recruitment@jcpsolicitors.co.uk neu ffonio 01792 525410 am sgwrs gyfrinachol.