Hawliadau Yn Erbyn Gweithwyr Proffesiynol
Rydym i gyd yn dibynnu ar weithwyr proffesiynol i ymdrin â materion sydd y tu hwnt i’n harbenigedd ni ein hunain. Pan eu bod nhw yn gwneud camgymeriad, gall y canlyniadau fod yn drychinebus yn ariannol.
Mae gan tîm hawliadau atebolrwydd proffesiynol JCP flynyddoedd lawer o brofiad o gynrychioli cleientiaid unigol, busnesau, a sefydliadau ariannol yn llwyddiannus mewn hawliadau yn ymwneud â phob math o weithwyr proffesiynol, er enghraifft:-
Enghreifftiau o hawliadau ar gyfer cleientiaid unigol a busnesau
Hawliadau yn erbyn Cyfreithwyr
- Methu ag adrodd am ddiffygion mewn teitlau eiddo
- Cyngor gwael ynglŷn â gwerthiannau busnes
- Ewyllysiau wedi eu paratoi yn anghywir
- Terfynau amser neu ddyddiadau cyfyngiad llys wedi eu colli
- Setliad rhy isel o ran hawliadau anafiadau
- Camymddwyn proffesiynol neu dwyll
Hawliadau yn erbyn Syrfewyr
- Adroddiadau arolwg gwallus
- Prisiadau esgeulus
Hawliadau yn erbyn Cynghorwyr Ariannol
- Trefnu neu gynghori ynglŷn â chynhyrchion anaddas ar gyfer buddsoddi
Hawliadau yn erbyn Cyfrifwyr
- Cyngor anghywir ar drethi
- Ffeilio hysbysiadau neu ffurflenni yn hwyr
Gallwch ddarllen astudiaethau achos mwy manwl gan ein tîm lle maen nhw wedi gweithredu ar ran unigolion neu fusnesau yma.
Hawliadau ar ran Benthycwyr a Sefydliadau Ariannol
Os ydych chi’n rhoddwr benthyciadau neu’n sefydliad ariannol gallwch ddarllen mwy am ein gwasanaethau ar gyfer rhoddwyr benthyciadau yma.
Os oes gennych achos yr hoffech ei drafod, cysylltwch ag aelod o’n tîm arbenigol ar 03333 208644 neu e-bostiwch hello@jcpsolicitors.co.uk