Hawliadau Yn Sgil Esgeuluster Meddygol
Yn anffodus, er ein bod yn ymddiried yn ein darparwyr gofal iechyd, ac yn eu gwerthfawrogi, gall pethau fynd o chwith. Mewn rhai achosion, gall y niwed a achosir o ganlyniad i hyn gael effaith drychinebus arnom ni a'n hanwyliaid am weddill ein hoes. Rydyn ni yma i'ch cefnogi chi i helpu i wneud penderfyniad anodd ynghylch gwneud cais am eich colledion ac i gynorthwyo gydag unrhyw ofal y gallai fod ei angen arnoch yn y dyfodol o ganlyniad i hyn.
Ers 1980, rydym wedi bod ar flaen y gad yn y maes arbenigedd hwn, ac wedi cynnal nifer o achosion cenedlaethol blaenllaw.
Mae gan ein tîm arbenigedd arbennig mewn hawliadau o’r difrifoldeb mwyaf, gan gynnwys achosion o anaf geni a niwed i'r ymennydd, yn ogystal ag achosion sy'n cynnwys anaf i asgwrn y cefn, damweiniau angheuol, trychiadau a niwed i'r llwybr gastroberfeddol.
Nid aelodau o’r cyhoedd yn unig sy’n ein cyfarwyddo, yn aml mae cyfreithwyr eraill yn ein hargymell ni. Mae'r cyfreithwyr hyn yn cydnabod ein harbenigedd yn y maes hwn ac yn awyddus i'w cleientiaid gael y cyfle gorau i lwyddo mewn amgylchiadau sy’n gallu peri cryn ofid.
Ein tîm ni yw'r tîm arbenigol mwyaf yn ne-orllewin Cymru a chawn ein cydnabod fel un o'r timau Esgeuluster Meddygol mwyaf blaenllaw yng Nghymru. Mae gan y tîm aelodaeth o Banel Esgeuluster Clinigol Cymdeithas y Gyfraith, Fforwm Anaf Caffaeledig i’r Ymennydd y DU, Panel Anaf Personol Cymdeithas y Gyfraith ac rydym ar restr cyfreithwyr a argymhellir gan Headway.
Gall damweiniau meddygol beri ofn a gofid, ond byddem yn eich annog i gysylltu â ni i gael sgwrs yn rhad ac am ddim, heb unrhyw ymrwymiad, gydag aelod o'n tîm arbenigol a fydd yn ymdrin â'ch achos gyda'r gofal a'r parch yr ydych yn eu haeddu.
Ein harbenigedd mewn hawliadau yn sgil esgeuluster meddygol
Gallwn eich cefnogi gyda phob math o hawliadau yn sgil esgeulustod meddygol (y cyfeirir ato hefyd fel 'hawliadau yn sgil esgeuluster clinigol'), gan gynnwys:
- Esgeuluster ysbyty
- Esgeuluster meddyg teulu
- Camgymeriadau llawfeddygol
- Hawliadau llawfeddygaeth gosmetig
- Hawliadau parlys yr ymennydd
- Hawliadau anafiadau i'r pen a'r ymennydd
- Esgeuluster gynaecolegol
- Hawliadau anaf geni
- Hawliadau anaf i asgwrn y cefn
- Hawliadau Damweiniau Angheuol
- Hawliadau Oncolegol
- Hawliadau damweiniau ac achosion brys
- Camddiagnosis
- Oedi mewn triniaeth
Mae ein tîm wedi'i achredu gan Gymdeithas y Gyfraith mewn Esgeuluster Clinigol sy'n adlewyrchu ein harbenigedd blaenllaw yn y maes cymhleth hwn o'r gyfraith. Rydym yn aelodau o APIL (Cymdeithas Cyfreithwyr Anafiadau Personol), Cymdeithas Anafiadau i Asgwrn y Cefn, ac rydym ar restr o gyfreithwyr a argymhellir gan Headway.
Mae ein cyfreithwyr hefyd wedi cael eu hargymell yn y Legal 500 a Chambers & Partners, prif ganllawiau cleientiaid ar gyfer y proffesiwn cyfreithiol.
Darllenwch am gleientiaid blaenorol yr ydym wedi rhoi cymorth iddynt yn ein hastudiaethau achos o hawliadau yn sgil esgeuluster meddygol.
I siarad â'n Cyfreithwyr Esgeuluster Meddygol arbenigol yn ne Cymru, cysylltwch â'ch swyddfa Cyfreithwyr JCP leol. Mae gennym swyddfeydd yn y lleoliadau canlynol:
Os nad oes swyddfa yn lleol i chi, cysylltwch â ni ar 03333 208644 gan ein bod yn hapus i drefnu cyfarfodydd dros y ffôn a fideo pan fo hynny'n briodol. Fel arall, mae croeso i chi anfon e-bost atom; hello@jcpsolicitors.co.uk, llenwi ein ffurflen ymholiadau ar-lein, neu defnyddiwch ein cyfleuster sgwrsio’n fyw dros y we.