Herio Ewyllys Neu Ymddiriedolaeth
Mae anghydfodau sy’n codi yn dilyn marwolaeth perthynas yn aml yn boenus a chymhleth, ac yn codi ar adeg pan fo pawb o dan deimlad. Ni yw un o’r ychydig gwmnïau cyfreithiol yng Nghymru sydd â’r arbenigedd angenrheidiol i ymdrin ag anghydfodau o’r fath, ac rydym wedi sefydlu enw da yn y maes anodd hwn.
Pan fo person yn marw gan adael asedau ar ei ôl, mae potensial bob amser i anghydfod godi hyd yn oed os yw’r sawl sydd wedi marw wedi gadael Ewyllys. Gelwir hyn yn brofiant cynhennus.
Mae Richard Howells yn aelod o’r corff proffesiynol ACTAPS – y Gymdeithas Arbenigwyr mewn Ymddiriedolaethau a Phrofiant Cynhennus. Pa un a ydych yn hawlydd, yn ymddiriedolwr, yn fuddiolwr neu’n gynrychiolydd personol a beth bynnag fo’r amgylchiadau, mae’r arbenigedd proffesiynol a’r profiad gan ein Tîm Profiant Cynhennus i’ch tywys drwy’r broses hon.
Gallwch fod yn dawel eich meddwl bod gan y tîm sy’n ymdrin â’ch achos flynyddoedd lawer o brofiad arbenigol mewn ymgyfreitha, a hynny mewn amrywiaeth o achosion gan gynnwys ymdrin â gwir berchnogaeth eiddo, esgeulustra wrth ddrafftio ewyllysiau, anghydfodau rhwng cynrychiolwyr personol a hawliadau sy’n herio dilysrwydd ewyllysiau, a cheisiadau i’r Llys Gwarchod,.
Mae ein harbenigedd yn cynnwys:
- Hawliadau estopel perchnogaeth, gan gynnwys rhai yn ymdrin ag ystadau amaethyddol gwerth uchel
- Anghydfodau rhwng cynrychiolwyr personol
- Hawliadau yn herio dilysrwydd Ewyllysiau ar sail:
- Methiant i weithredu Ewyllys yn gywir
- Dylanwad gormodol
- Diffyg gwybodaeth a chymeradwyaeth
- Diffyg cymhwyster ewyllysiol
- Twyll a ffugiadau
- Hawliadau am fudd ariannol mewn eiddo ystâd
- Ceisiadau i’r Llys am arweiniad ar ddehongliad cymalau penodol o fewn Ewyllysiau lle mae’r termau yn aneglur
- Hawliadau o dan Ddeddf Etifeddiaeth (Darpariaeth ar gyfer Teulu a Dibynyddion) 1975 ble mae darpariaeth annigonol ar gyfer dibynnydd mewn Ewyllys neu pan nad oes ewyllys
- Hawliadau ynglŷn â drafftio esgeulus neu weinyddu ystadau mewn modd esgeulus
- Ceisiadau i apwyntio Dirprwyon, cadarnhau gallu meddyliol neu baratoi Ewyllys Statudol gan gynnwys gwasanaeth y Llys Gwarchod
- Anghydfodau cymhleth ynglŷn ag Ymddiriedolaethau
- Hawliadau Strong v Bird
Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gyflawni’r canlyniad iawn i chi. Er nad yw’n bosibl bob amser, byddwn yn ceisio dod i gytundeb heb fynd i achos llys, gan geisio diogelu’r berthynas deuluol. Er hynny, os naellir cyflawni datrysiad heb achos llys, gallwch fod yn dawel eich meddwl bod eich tîm yn cynnwys arbenigwyr y gallwch ddibynnu arnynt.
Er mwyn siarad gyda’n Cyfreithwyr Ewyllysiau, Ymddiriedolaethau a Phrofiant arbenigol yn Ne Cymru, cysylltwch â’ch swyddfa JCP leol. Mae gennym swyddfeydd yn y lleoliadau canlynol:
Os nad oes swyddfa’n lleol i chi, cysylltwch â ni ar 03333 208644 gan ein bod yn hapus i drefnu galwad ffôn neu gyfarfod fideo pan yn addas. Fel arall, cysylltwch â ni ar hello@jcpsolicitors.co.uk, llenwch ein ffurflen ymholi, neu defnyddiwch ein hadnodd sgwrsio ar y we.