Trafodiadau Masnachol banner

Gwneud eich Busnes Chi yn Fusnes i Ni

Home / Cymraeg / Trafodiadau Masnachol

Trafodiadau Masnachol

Mae perthynas clir a dibynadwy yn hanfodol mewn gweithgareddau busnes. Gwyddom fod angen i ni fod yn gynghorwyr yr ydych yn ymddiried ynddynt, ac nid cymryd diddordeb dros dro yn unig. I wneud hyn mae angen i ni ei wneud yn fusnes i ni i ddod i adnabod eich busnes chi yn drylwyr.

Rydym yn deall yr heriau yr ydych yn eu hwynebu a byddwn yn rhoi sylw ychwanegol i’r manylion er mwyn sicrhau eich bod yn cael canlyniadau da yn gyson.

Rydym yn cynnig ystod gynhwysfawr o wasanaethau wedi eu teilwra i fusnesau o bob math a maint. Gan ein bod ni’n fusnes modern, rydym yn deall bod ein cleientiaid yn dymuno gweld prosesau prisio clir, costau sefydlog a threfniadau amgen ar gyfer talu, pan fo hynny’n briodol.


I siarad â'n cyfreithwyr Busnes arbenigol yn ne Cymru, cysylltwch â'ch swyddfa Cyfreithwyr JCP leol. Mae gennym swyddfeydd yn y lleoliadau canlynol:

Os nad oes swyddfa yn lleol i chi, cysylltwch â ni ar 03333 208644 gan ein bod yn hapus i drefnu cyfarfodydd ffôn a fideo lle bo hynny'n briodol. Fel arall, mae croeso i chi anfon e-bost atom yn hello@jcpsolicitors.co.uk, llenwi ein ffurflen ymholiadau ar-lein, neu ddefnyddio ein cyfleuster sgwrsio’n fyw dros y we.