Mae Matthew wedi datblygu arbenigedd cydnabyddedig mewn cynorthwyo rhai sydd wedi dioddef esgeuluster meddygol. Yn ogystal â derbyn achosion wedi eu hatgyfeirio o Gyfreithwyr nad ydynt gyda’r arbenigedd gofynnol yn y maes yma, mae Matthew hefyd yn derbyn achosion wedi eu hatgyfeirio o fudiadau ac Elusennau amrywiol, sy’n dibynnu ar ei adnabyddiaeth o’r pwnc a’i enw da yn y maes.
Gall cymryd achos esgeuluster meddygol fod yn broses cymhleth a hir, a thra bod llawer Cyfreithiwr yn gallu cynnig gwasanaeth eithriadol mewn meysydd eraill, does ganddynt mo’r arbenigedd gofynnol, y wybodaeth, na’r adnoddau sydd gan Matthew ac aelodau eraill o’r Tîm. Yn aelod o Banel Arbenigol Esgeuluster Meddygol Cymdeithas y Gyfraith, mae Matthew wedi datblygu arbenigedd penodol mewn achosion difrifol yn ymwneud â niwed i linyn y cefn a llawdriniaeth fasgwlaidd.
Delia Matthew hefyd gydag achosion o anaf personol dros gleientiaid sydd wedi dioddef anaf trwy drosedd – adnabyddir yr achosion hyn fel rhai CICA, sef Yr Awdurdod Digolledu am Niweidiau Troseddol. Mae Matthew yn brofiadol mewn cynorthwyo cleientiaid sydd wedi dioddef anafiadau difrifol i’r pen/ymennydd, ac yn derbyn cyfarwyddiadau i weithredu ar ran Y Cyfreithiwr Swyddogol.
Cymera Matthew ei amser i esbonio’r broses o gymryd achos Esgeuluster Meddygol i’w gleientiaid, ac mae’n falch iawn o’r berthynas ofalgar, ddibynadwy ac ymroddedig mae’n adeiladu gyda’u gleientiaid dros y blynyddoedd mae’n gweithio gyda hwy. Mae’n cydnabod fod damwain difrifol neu achos o anaf personol yn adeg ysgytiol, ac fe wnaiff popeth o fewn ei allu i sicrhau fod ffydd gan ei gleientiaid ei fod yn gwarchod eu buddiannau, a bod eu gofynion oes yn cael eu hamddiffyn pan fo achos o anaf difrifol a thrychinebus neu esgeulustod.
Mae Matthew wedi ennill clod yn y Legal 500 am ei arbenigedd mewn Esgeuluster Meddygol, tra bod Chambers yn ei gymeradwyo fel unigolyn i’w nodi a bod ffynonellau'r farchnad yn ei adnabod fel un o’r cyfreithwyr y dylid mynd ato am Esgeuluster Meddygol yn Abertawe.
Mae Matthew yn rhugl yn y Gymraeg.