033 3320 9244

Esgeuluster Meddygol

 

Yn anffodus er bod angen i ni fod â ffydd yn y rhai sy’n darparu ein gofal iechyd i ni, gall pethau fynd o chwith. Mewn rhai sefyllfaoedd gall y niwed a achosir o ganlyniad i hyn gael effaith andwyol arnom ni a’n hanwyliaid am weddill ein hoes.

Ers 1980, ry’m ni wedi bod ar flaen y gad yn yr arbenigedd hwn, ac wedi cymryd sawl achos blaenllaw yn genedlaethol.

Mae gan ein tîm arbenigedd penodol mewn achosion o’r niwed eithaf, gan gynnwys niwed ar enedigaeth ac anaf i’r ymennydd, yn ogystal ag achosion yn ymwneud â niwed i linyn y cefn, damweiniau angheuol, trychiadau, a niwed i’r bibell gastroberfeddol.

Nid yn unig aelodau o’r cyhoedd sydd yn dod atom, ry’m ni hefyd yn cael ein cymeradwyo gan gyfreithwyr eraill yn aml. Adnabu’r cyfreithwyr hyn ein harbenigedd yn y maes yma a dymunant i’w cleientiaid gael y cyfle gorau i lwyddo mewn amgylchiadau all fod yn ofidus iawn.

Ni yw’r tîm arbenigol mwyaf yn Ne Orllewin Cymru ac fe’m hadnabyddir fel un o’r Timoedd Esgeuluster Meddygol mwyaf blaenllaw yng Nghymru. Mae gan y tîm aelodaeth o Banel Esgeuluster Meddygol Cymdeithas y Gyfraith; Fforwm Anaf Caffaeledig i’r Ymennydd y DU; Panel Anaf Personol Cymdeithas y Gyfraith, ac ry’m ni ar restr cyfreithwyr Headway.

Gall dioddef damwain feddygol peri ofn a gofid, ond fe anogwn ni chi i gysylltu am sgwrs rad ac am ddim, heb rwymedigaeth, gydag un o’m cyfreithwyr arbenigol a fydd yn delio gyda’ch achos gyda’r gofal a’r parch rydych yn haeddu.

"Yr unig addewid a wnaeth Matthew oedd y byddai’n gwneud ei orau – ac fe wnaeth hynny yn rhagorol. Rwy’n fodlon iawn ar yr hyn a wnaeth."

  • Nick O'Neill
      • 02920 391917
      • View profile
  • Matthew Owen
      • 01792 529 683
      • View profile
  • Lauren Protheroe
      • 01792 525415
      • View profile
  • Thomas Rees
      • 01267 248889
      • View profile
  • Keith Thomas
      • 03333 209244
      • View profile
  • Samuel Barnes
      • 01792 525454
      • View profile
  • Marnie Novis
      • 01792 529699
      • View profile
  • Cheryl Smith
      • 02920 379561
      • View profile