- Swansea (Main)01792 773 773
- Caerphilly02920 860 628
- Cardiff02920 225 472
- Carmarthen01267 234 022
- Cowbridge01446 771 742
- Haverfordwest01437 764 723
- Rural Practice01267 266 944
- St Davids01348873671
- Please note that all phone calls are recorded
Meinir Davies Appointed Swansea District Law Society President
- Posted
- AuthorMeinir Davies
Meinir Davies from JCP Solicitors has been selected to take on the role of President for Swansea District Law Society (SDLS) in 2024-25.
The Swansea and District Law Society was formed in 1879 to support Solicitors in the Swansea region, providing training, meetings and social events for practitioners, as well as connections with policy-makers. Each President of the SDLS selects chosen charities to support during their tenure, and Meinir has chosen Guide Dogs Cymru and Urdd Gobaith Cymru.
Guide Dogs Cymru are currently supporting over 185 guide dog partnerships in Wales, but still have around 100 people on their waiting list. Guide dogs allow people with sight loss to live the life they choose, empowering their independence; Guide Dogs Cymru also provide support for those with sight loss through their Adult & Children and Young People services.
Urdd Gobaith Cymru is a National Voluntary Youth Organisation with over 55,000 members between the ages of 8 – 25 years old, and the Urdd Eisteddfod is one of Europe's largest Travelling Festivals, visiting a different area of Wales every year. It offers over 50 apprenticeships and supports 300 sport clubs with over 11,000 children taking part weekly. In May 2025, the Urdd Eisteddfod will come to Margam Park within the SDLS region.
Taking place on Friday 15 November at the Brangwyn Hall, the Society’s 63rd Annual Dinner will welcome members and guests for an evening of celebration, insight and fundraising.
Invited as the guest speaker is Professor Elwen Evans KC, Vice-Chancellor of the University of Wales and the University of Wales Trinity Saint David. Professor Evans KC has a fascinating background as one of the UK’s leading criminal barristers working on high-profile cases in Wales. Professor Evans KC was appointed as a Recorder of the Crown Court in 2001 and has been a Bencher of Gray’s Inn since 2006. Between 2002 and 2015, she was the Head of Iscoed Chambers before being appointed as the Head of the College of Law and Criminology at Swansea University in 2015, becoming Pro-Vice Chancellor and Executive Dean of the Faculty of Humanities and Social Sciences in 2020. In May 2023 she was appointed Vice-Chancellor of the University of Wales and the University of Wales Trinity Saint David, the first female leader of the universities and predecessor institutions Professor Evans KC was a Commissioner on the Commission on Justice in Wales for their report in 2019, and has served on a wide range of external bodies and committees.
Meinir Davies, Consultant and Welsh Language Co-ordinator at JCP Solicitors, said: “I am delighted to take on the Presidency for SDLS, and look forward to working with a wide network of legal professionals to encourage growth and development within the legal sector in Swansea and surrounding areas.
“Both of the chosen charities are close to my heart, doing incredible work for people and communities across Wales. I hope to raise greater awareness of the positive work Guide Dogs Cymru and Urdd Gobaith Cymru do, and look forward to working closely with both charities throughout my time as President."
(Left to Right: Paul Bevan, SDLS Vice President 2024-25 and Partner in Beor Wilson and Lloyd, and Meinir Davies, SDLS President 2024-25 and Consultant & Welsh Language Co-ordinator at JCP Solicitors).
Mae Meinir Davies o Gyfreithwyr JCP wedi cael ei dewis fel Llywydd Cymdeithas Cyfreithwyr Abertawe a’r Cylch 2024-25.
Sefydlwyd Cymdeithas Cyfreithwyr Abertawe a’r Cylch yn 1879 i gefnogi Cyfreithwyr yn ardal Abertawe, gan ddarparu hyfforddiant, cyfarfodydd a digwyddiadau cymdeithasol i ymarferwyr, yn ogystal â chysylltiadau gyda llunwyr polisïau. Mae pob Llywydd o’r gymdeithas hefyd yn dewis elusennau i’w cefnogi yn ystod eu cyfnod yn y swydd, ac mae Meinir wedi dewis Guide Dogs Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.
Ar hyn o bryd, mae Guide Dogs Cymru yn cefnogi dros 185 o bartneriaethau ci tywys yng Nghymru, ond mae tua 100 o bobl ar eu rhestr aros o hyd. Mae cŵn tywys yn galluogi pobl sydd â cholled golwg i fyw’r bywyd maent yn ei ddewis, gan roi hyder iddynt fyw’n annibynnol; mae Guide Dogs Cymru hefyd yn cynnig cefnogaeth i’r rhai â cholled golwg drwy eu gwasanaethau i Oedolion a Phlant a Phobl Ifanc.
Mae Urdd Gobaith Cymru yn gorff gwirfoddol ieuenctid cenedlaethol gyda dros 55,000 o aelodau rhwng 8 a 25 oed, ac mae Eisteddfod yr Urdd yn un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop, gan ymweld ag ardal wahanol o Gymru bob blwyddyn. Mae'r Urdd yn cynnig dros 50 o brentisiaethau ac yn cefnogi 300 o glybiau chwaraeon gyda dros 11,000 o blant yn cymryd rhan yn wythnosol. Ym mis Mai 2025, bydd Eisteddfod yr Urdd yn dod i Barc Margam o fewn ardal Cymdeithas Cyfreithwyr Abertawe a’r Cylch.
Yn cael ei chynnal ddydd Gwener 15 Tachwedd yn Neuadd y Brangwyn, bydd 63ain Cinio Blynyddol y Gymdeithas yn croesawu aelodau a gwesteion am noson o ddathlu, mewnwelediad a chodi arian.
Wedi'i gwahodd fel y siaradwr gwadd mae’r Athro Elwen Evans KC, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae gan yr Athro Evans KC gefndir diddorol fel un o fargyfreithwyr troseddol mwyaf blaenllaw’r DU, gan weithio ar achosion amlwg yng Nghymru. Penodwyd yr Athro Evans KC yn Gofiadur yn Llys y Goron yn 2001 ac mae wedi bod yn Feinciwr Gray’s Inn ers 2006. Rhwng 2002 a 2015, bu’n Bennaeth Siambr Iscoed cyn cael ei phenodi’n Bennaeth Coleg y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Abertawe yn 2015, gan ddod yn Ddirprwy Is-Ganghellor a Deon Gweithredol Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol yn 2020. Ym mis Mai 2023 fe’i penodwyd yn Is-Ganghellor Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, y fenyw gyntaf i arwain y prifysgolion a’r sefydliadau a’u rhagflaenodd. Bu’r Athro Evans KC yn Gomisiynydd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ar gyfer eu hadroddiad yn 2019, ac mae wedi gwasanaethu ar amrywiaeth eang o gyrff a phwyllgorau allanol.
Dywedodd Meinir Davies, Ymgynghorydd a Chydlynydd y Gymraeg yn JCP: “Rwy’n falch iawn o dderbyn Llywyddiaeth Cymdeithas Cyfreithwyr Abertawe a’r Cylch, ac yn edrych ymlaen at weithio gyda rhwydwaith eang o weithwyr proffesiynol cyfreithiol i annog twf a datblygiad o fewn y sector cyfreithiol yn Abertawe a’r ardaloedd cyfagos.
“Mae’r ddwy elusen yn bwysig iawn i mi, gan wneud gwaith anhygoel dros bobl a chymunedau ar draws Cymru. Rwy’n gobeithio codi ymwybyddiaeth o’r gwaith cadarnhaol mae Guide Dogs Cymru ac Urdd Gobaith Cymru yn eu gwneud, ac yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r ddwy elusen yn ystod fy amser fel Llywydd.”